Salm 140:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. O ARGLWYDD, paid gadael i'r rhai drwg gael eu ffordd!Paid gadael i'w cynllwyn nhw lwyddo,rhag iddyn nhw ymffrostio. Saib

9. Ac am y rhai sydd o'm cwmpas i –boed i'r pethau drwg maen nhw wedi ddweud eu llethu!

10. Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw!Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto!

11. Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir.Gad i ddrygioni'r dynion treisgar eu hela nhw a'u bwrw nhw i lawr.

12. Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDDyn gweithredu ar ran y rhai sy'n diodde.Bydd yn sicrhau cyfiawnder i'r rhai mewn angen.

13. Bydd y rhai cyfiawn yn sicr yn moli dy enw di!Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn aros yn dy gwmni di.

Salm 140