2. Ti'n gwybod pryd dw i'n eistedd ac yn codi;ti'n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell.
3. Ti'n cadw golwg arna i yn teithio ac yn gorffwys;yn wir, ti'n gwybod am bopeth dw i'n wneud.
4. Ti'n gwybod beth dw i'n mynd i'w ddweudcyn i mi agor fy ngheg, ARGLWYDD.
5. Rwyt ti yna o'm blaen i a'r tu ôl i mi,mae dy law di arna i i'm hamddiffyn.
6. Ti'n gwybod popeth amdana i! Mae tu hwnt i mi –mae'n ddirgelwch llwyr, mae'n ormod i mi ei ddeall.
7. Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd?I ble alla i ddianc oddi wrthot ti?
8. Petawn i'n mynd i fyny i'r nefoedd, rwyt ti yno;petawn i'n gorwedd i lawr yn Annwn, dyna ti eto!
9. Petawn i'n hedfan i ffwrdd gyda'r wawrac yn mynd i fyw dros y môr,
10. byddai dy law yno hefyd, i'm harwain;byddai dy law dde yn gafael yn dynn ynof fi.
11. Petawn i'n gofyn i'r tywyllwch fy nghuddio,ac i'r golau o'm cwmpas droi yn nos,
12. dydy hyd yn oed tywyllwch ddim yn dywyll i ti!Mae'r nos yn olau fel y dydd i ti;mae goleuni a thywyllwch yr un fath!
13. Ti greodd fy meddwl a'm teimladau;a'm plethu i yng nghroth fy mam.
14. Dw i'n dy foli di,am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol!Mae'r cwbl rwyt ti'n wneud yn anhygoel!Ti'n fy nabod i i'r dim!