Salm 132:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, paid anghofio Dafydd.Roedd e wedi cael amser mor galed.

2. Roedd e wedi addo i'r ARGLWYDDa mynd ar ei lw i Un Cryf Jacob:

3. “Dw i ddim am fynd i'r tŷ,na dringo i'm gwely;

4. dw i ddim am adael i'm llygaid orffwys,na chau fy amrannau,

5. nes dod o hyd i le i'r ARGLWYDD,ie, rhywle i Un Cryf Jacob fyw.”

6. Clywson fod yr Arch yn Effrata;a dod o hyd iddi yng nghefn gwlad Jaar.

7. Gadewch i ni fynd i mewn i'w dabernacl,ac ymgrymu wrth ei stôl droed!

Salm 132