1. Help, ARGLWYDD!Does neb ffyddlon ar ôl!Mae'r rhai sy'n driw wedi diflannu.
2. Mae pawb yn dweud celwydd wrth ei gilydd;maen nhw'n seboni ond yn ddauwynebog.
3. Boed i'r ARGLWYDD roi stop ar eu geiriau ffals,a rhoi taw ar bob tafod sy'n brolio!
4. “Gallwn wneud unrhyw beth!” medden nhw.“Gallwn ddweud beth leiciwn ni!Dŷn ni'n atebol i neb!”