Salm 119:95-105 beibl.net 2015 (BNET)

95. Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio,ond dw i'n myfyrio ar dy orchmynion.

96. Mae yna ben draw i bopeth arall,ond mae dy orchmynion di yn ddiderfyn!

97. O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di!Dw i'n myfyrio ynddi drwy'r dydd.

98. Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser;maen nhw'n fy ngwneud i'n gallach na'm gelynion;

99. Dw i wedi dod i ddeall mwy na'm hathrawon i gyd,am fy mod i'n myfyrio ar dy ddeddfau di.

100. Dw i wedi dod i ddeall yn well na'r rhai mewn oed,am fy mod i'n cadw dy ofynion di.

101. Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwger mwyn gwneud beth rwyt ti'n ddweud.

102. Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di,am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i.

103. Mae'r pethau rwyt ti'n eu dweud mor dda,maen nhw'n felys fel mêl.

104. Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi;ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals.

105. Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed,ac yn goleuo fy llwybr.

Salm 119