Salm 119:7-24 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dw i'n diolch i ti o waelod calonwrth ddysgu mor deg ydy dy reolau.

8. Dw i'n mynd i gadw dy ddeddfau;felly paid troi cefn arna i'n llwyr!

9. Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? –drwy wneud fel rwyt ti'n dweud.

10. Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti;paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di.

11. Dw i'n trysori dy neges di yn fy nghalon;er mwyn peidio pechu yn dy erbyn.

12. Rwyt ti'n fendigedig, O ARGLWYDD!Dysga dy ddeddfau i mi.

13. Dw i'n ailadrodd yn uchely rheolau rwyt ti wedi eu rhoi.

14. Mae byw fel rwyt ti'n dweudyn rhoi mwy o lawenydd na'r cyfoeth mwya.

15. Dw i am fyfyrio ar dy ofynion,a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd.

16. Mae dy ddeddfau di yn rhoi'r pleser mwya i mi!Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti'n ddweud.

17. Helpa dy was!Cadw fi'n fyw i mi allu gwneud beth rwyt ti'n ddweud.

18. Agor fy llygaid, i mi allu deally pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu.

19. Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro.Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i.

20. Dw i'n ysu am gael gwybodbeth ydy dy ddyfarniad di.

21. Rwyt ti'n ceryddu pobl falch,ac yn melltithio'r rhai sy'n crwydro oddi wrth dy orchmynion di.

22. Wnei di symud yr holl wawdio a'r cam-drin i ffwrdd?Dw i'n cadw dy reolau di.

23. Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i,mae dy was yn astudio dy ddeddfau.

24. Mae dy ofynion di yn hyfrydwch pur i mi,ac yn rhoi arweiniad cyson i mi.

Salm 119