28. Mae tristwch yn fy lladd i!Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!
29. Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi;a rho dy ddysgeidiaeth i mi.
30. Dw i wedi dewis byw'n ffyddlon i ti;a chadw fy llygaid ar dy reolau di.
31. Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi!
32. Dw i wir eisiau byw'n ffyddlon i dy orchmynion;helpa fi i weld y darlun mawr.
33. O ARGLWYDD, dysga fi i fywfel mae dy gyfraith di'n dweud;a'i dilyn i'r diwedd.
34. Helpa fi i ddeall, a bydda i'n cadw dy ddysgeidiaeth di;bydda i'n ymroi i wneud popeth mae'n ei ofyn.
35. Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion;dyna dw i eisiau ei wneud.
36. Gwna fi'n awyddus i gadw dy amodau diyn lle bod eisiau llwyddo'n faterol.
37. Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!
38. Gwna beth wnest ti ei addo i dy was,i ennyn parch ac addoliad ynof fi.
39. Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd,Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn.
40. Dw i'n dyheu am wneud beth rwyt ti'n ei ofyn;Rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.
41. Gad i mi brofi dy gariad, O ARGLWYDD.Achub fi, fel rwyt wedi addo.
42. Wedyn bydda i'n gallu ateb y rhai sy'n fy enllibio,gan fy mod i'n credu beth rwyt ti'n ddweud.
43. Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy'n wir,dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di.
44. Wedyn bydda i'n ufudd i dy ddysgeidiaeth diam byth bythoedd!
45. Gad i mi gerdded yn rhyddam fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
46. Bydda i'n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion.Fydd gen i ddim cywilydd.
47. Mae dy orchmynion yn rhoi'r pleser mwya i mi,dw i wir yn eu caru nhw!