149. Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon;O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder!
150. Mae'r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes!Maen nhw'n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di.
151. Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD,ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir.
152. Dw i wedi dysgu ers talwmfod dy reolau di yn aros am byth.
153. Edrych fel dw i'n dioddef, ac achub fi!dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
154. Dadlau fy achos a helpa fi!Cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo gwneud.
155. Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti;dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
156. Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD;adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder!
157. Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i;ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di.
158. Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i,am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di.
159. Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion!O ARGLWYDD, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo.
160. Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy;mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.
161. Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam!Ond mae dy eiriau di yn rhoi gwefr i mi.