Salm 119:123-139 beibl.net 2015 (BNET)

123. Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i,ac i dy addewid sicr ddod yn wir.

124. Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was;dysga dy ddeddfau i mi.

125. Dy was di ydw i. Helpa fi i ddealla gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.

126. Mae'n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD!Mae'r bobl yma yn torri dy reolau.

127. Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di;mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.

128. Dw i'n dilyn dy ofynion di yn fanwl;dw i'n casáu pob ffordd ffals.

129. Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol,a dyna pam dw i'n eu cadw nhw.

130. Mae dy eiriau di yn goleuo materion,ac yn rhoi deall i bobl gyffredin.

131. Dw i'n dyheu, dw i'n disgwyl yn geg agoredac yn ysu am dy orchmynion di.

132. Tro ata i, a bydd yn garedig ata i;dyna rwyt ti'n ei wneud i'r rhai sy'n caru dy enw di.

133. Dangos di'r ffordd ymlaen i mi;paid gadael i'r rhai drwg gael y llaw uchaf arna i!

134. Gollwng fi'n rhydd o afael y rhai sy'n fy ngormesu,er mwyn i mi wneud beth rwyt ti'n ei ddweud.

135. Bydd yn garedig at dy was,a dysga dy ddeddfau i mi.

136. Mae'r dagrau yn llifo fel afon gen iam fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di.

137. Rwyt ti yn gyfiawn, O ARGLWYDD;ac mae dy reolau di yn gwbl deg.

138. Mae'r deddfau rwyt ti wedi eu rhoi yn gyfiawn;ac yn gwbl ddibynadwy.

139. Dw i'n gwylltio'n lânwrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt ti'n ddweud.

Salm 119