Salm 118:15-29 beibl.net 2015 (BNET)

15. Mae pobl Dduw i'w clywed yn canu am y fuddugoliaeth yn eu pebyll,“Mae'r ARGLWYDD mor gryf!

16. Mae'r ARGLWYDD yn fuddugol!Mae ARGLWYDD mor gryf!”

17. Dw i'n fyw! Wnes i ddim marw!Bydda i'n dweud beth wnaeth yr ARGLWYDD!

18. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghosbi'n llym,ond wnaeth e ddim gadael i mi gael fy lladd.

19. Agorwch giatiau cyfiawnder i mier mwyn i mi fynd i mewn i ddiolch i'r ARGLWYDD!

20. Giât yr ARGLWYDD ydy hon –dim ond y rhai cyfiawn sy'n cael mynd trwyddi.

21. Diolch i ti am ateb fy ngweddi,ac am fy achub i.

22. Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyrwedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.

23. Yr ARGLWYDD wnaeth hyn,mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg!

24. Mae heddiw'n ddiwrnod i'r ARGLWYDD –gadewch i ni ddathlu a bod yn llawen!

25. O ARGLWYDD, plîs achub ni!O ARGLWYDD, gwna i ni lwyddo!

26. Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r ARGLWYDDwedi ei fendithio'n fawr –Bendith arnoch chi i gyd o deml yr ARGLWYDD!

27. Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn,ac mae wedi rhoi ei olau i ni.Gadewch i ni ddathlu!Ewch at yr allor gyda changhennau coed palmwydd.

28. Ti ydy fy Nuw i a dw i'n diolch i ti!Ti ydy fy Nuw i a dw i'n dy ganmol di!

29. Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

Salm 118