Salm 116:12-17 beibl.net 2015 (BNET)

12. Sut alla i dalu nôl i'r ARGLWYDDam fod mor dda tuag ata i?

13. Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,a dw i am alw ar enw'r ARGLWYDD.

14. Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDDo flaen ei bobl.

15. Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlonyn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

16. Plîs ARGLWYDD,dw i wir yn un o dy weisionac yn blentyn i dy forwyn.Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.

17. Dw i'n cyflwyno offrwm i ddiolch i tiac yn galw ar enw yr ARGLWYDD.

Salm 116