13. Bydd yn bendithio'r rhai sy'n addoli'r ARGLWYDD,yn ifanc a hen.
14. Boed i'r ARGLWYDD roi plant i chi;ie, i chi a'ch plant hefyd!
15. Boed i'r ARGLWYDD, wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear,eich bendithio chi!
16. Yr ARGLWYDD sydd piau'r nefoedd,ond mae wedi rhoi'r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth.
17. Dydy'r meirw ddim yn gallu moli'r ARGLWYDD,maen nhw wedi mynd i dawelwch y bedd.
18. Ond dŷn ni'n mynd i foli'r ARGLWYDDo hyn allan, ac am byth!Haleliwia!