Salm 112:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Haleliwia!Mae bendith fawr i'r un sy'n parchu'r ARGLWYDDac wrth ei fodd yn gwneud beth mae'n ei ddweud.

2. Bydd ei ddisgynyddion yn llwyddiannus;cenhedlaeth o bobl dduwiol yn cael eu bendithio.

3. Bydd e'n gyfoethog,a bob amser yn byw'n gywir.

4. Mae golau yn disgleirio yn y tywyllwch i'r duwiol;y sawl sy'n garedig, yn drugarog ac yn gwneud beth sy'n iawn.

5. Mae pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n hael wrth fenthygac yn rheoli ei fusnes yn gyfiawn.

6. Fydd dim byd yn tarfu arno;bydd pobl yn cofio ei fod wedi byw'n gywir.

7. Does ganddo ddim ofn newyddion drwg;mae e'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyr.

Salm 112