Salm 111:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Haleliwia!Dw i'n diolch i'r ARGLWYDD o waelod calon,o flaen y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.

2. Mae'r ARGLWYDD yn gwneud pethau mor fawr!Maen nhw'n bleser pur i bawb sy'n myfyrio arnyn nhw.

3. Mae'r cwbl yn dangos ei ysblander a'i urddas,a'i fod e bob amser yn ffyddlon.

4. Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud!Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog!

5. Mae e'n rhoi bwyd i'w rai ffyddlon;mae bob amser yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e.

6. Dwedodd wrth ei bobl y byddai'n gwneud pethau mawr,a rhoi tir cenhedloedd eraill iddyn nhw.

7. Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn.Mae'r pethau mae'n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy,

8. ac yn sefyll am byth.Maen nhw'n ffyddlon ac yn deg.

Salm 111