Salm 110:3-7 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mae dy bobl yn barod i dy ddilyn i'r frwydr.Ar y bryniau sanctaiddbydd byddin ifanc yn dod atatfel gwlith yn codi o groth y wawr.

4. Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw,a fydd e ddim yn torri ei air,“Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”

5. Mae'r ARGLWYDD, sydd ar dy ochr dde di,yn sathru brenhinoedd ar y diwrnod pan mae'n ddig.

6. Mae'n cosbi'r cenhedloedd,yn pentyrru'r cyrff marwac yn sathru eu harweinwyr drwy'r byd i gyd.

7. Ond bydd e'n yfed o'r nant ar ochr y ffordd,ac yn codi ar ei draed yn fuddugol.

Salm 110