Salm 107:5-18 beibl.net 2015 (BNET)

5. Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw,ac roedden nhw wedi colli bob egni.

6. Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion,

7. ac yn eu harwain nhw'n sythi le y gallen nhw setlo i lawr.

8. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!

9. Mae wedi rhoi diod i'r sychedig,a bwyd da i'r rhai oedd yn llwgu.

10. Roedd rhai yn byw mewn tywyllwch dudew,ac yn gaeth mewn cadwyni haearn,

11. am eu bod nhw wedi gwrthod gwrando ar Dduw,a gwrthod gwneud beth roedd y Goruchaf eisiau.

12. Deliodd hefo nhw drwy wneud iddyn nhw ddiodde.Roedden nhw'n baglu, a doedd neb i'w helpu.

13. Yna dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.

14. Daeth รข nhw allan o'r tywyllwch,a thorri'r rhaffau oedd yn eu rhwymo.

15. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!

16. Mae wedi dryllio'r drysau pres,a thorri'r barrau haearn.

17. Buodd rhai yn anfoesol, ac roedd rhaid iddyn nhw ddioddeam bechu a chamfihafio.

18. Roedden nhw'n methu cadw eu bwyd i lawr,ac roedden nhw'n agos at farw.

Salm 107