21. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!
22. Gadewch iddyn nhw gyflwyno offrymau diolch iddo,a chanu'n llawen am y cwbl mae wedi ei wneud!
23. Aeth rhai eraill ar longau i'r môr,i ennill bywoliaeth ar y môr mawr.
24. Cawson nhw hefyd weld beth allai'r ARGLWYDD ei wneud,y pethau rhyfeddol wnaeth e ar y moroedd dwfn.
25. Roedd yn rhoi gorchymyn i wynt stormus godi,ac yn gwneud i'r tonnau godi'n uchel.
26. I fyny i'r awyr, ac i lawr i'r dyfnder â nhw!Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau.
27. Roedd y cwch yn siglo a gwegian fel rhywun wedi meddwi,a doedd eu holl brofiad ar y môr yn dda i ddim.
28. Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
29. Gwnaeth i'r storm dawelu;roedd y tonnau'n llonydd.
30. Roedden nhw mor falch fod y storm wedi tawelu,ac aeth Duw â nhw i'r porthladd o'u dewis.