Salm 106:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. Wnaeth ein hynafiaid yn yr Aifft ddim gwerthfawrogi dy wyrthiau rhyfeddol.Dyma nhw'n anghofio popeth wnest ti yn dy gariad,a gwrthryfela yn erbyn y Duw Goruchaf wrth y Môr Coch.

8. Ac eto achubodd nhw, er mwyn ei enw da,ac er mwyn dangos ei nerth.

9. Gwaeddodd ar y Môr Coch a'i sychu!Yna eu harwain drwy'r dyfnder, fel petai'n dir anial.

10. Cadwodd nhw'n saff rhag y rhai oedd yn eu casáu,a'u rhyddhau o afael y gelyn.

11. Dyma'r dŵr yn llifo'n ôl dros y gelynion,gan adael dim un ar ôl yn fyw.

12. Roedden nhw'n credu beth ddwedodd e wedyn,ac yn canu mawl iddo!

13. Ond dyma nhw'n anghofio'r cwbl wnaeth e'n fuan iawn!Wnaethon nhw ddim disgwyl am ei arweiniad.

14. Roedden nhw'n ysu am gael cig yn yr anialwch,a dyma nhw'n rhoi Duw ar brawf yn y tir sych.

15. Rhoddodd iddyn nhw beth roedden nhw eisiau,ond yna eu taro nhw gyda chlefyd oedd yn eu gwneud yn wan.

16. Roedd pobl yn y gwersyll yn genfigennus o Moses,ac o Aaron, yr un roedd yr ARGLWYDD wedi ei gysegru.

Salm 106