29. Troi eu dŵr nhw yn waednes i'r pysgod i gyd farw.
30. Llenwi'r wlad hefo llyffaint –hyd yn oed y palasau brenhinol.
31. Rhoddodd orchymyn, a daeth haid o bryfed –gwybed drwy'r tir ym mhobman.
32. Anfonodd stormydd cenllysg yn lle glaw,a mellt drwy'r wlad i gyd.
33. Taro eu gwinwydd a'u coed ffigys,a bwrw coed i lawr drwy'r wlad.
34. Gorchymyn anfon locustiaid –llawer iawn gormod ohonyn nhw i'w cyfri.
35. Roedden nhw'n difetha'r planhigion i gyd,ac yn bwyta popeth oedd yn tyfu ar y tir!
36. Yna lladd plentyn hynaf pob teulu drwy'r wlad –ffrwyth cyntaf eu cyfathrach.