21. Mae'r llewod yn rhuo am ysglyfaethac yn gofyn i Dduw am eu bwyd.
22. Wedyn, pan mae'r haul yn codi,maen nhw'n mynd i'w ffeuau i orffwys.
23. A dyna pryd mae pobl yn deffro,a mynd allan i weithio nes iddi nosi.
24. O ARGLWYDD, rwyt wedi creucymaint o wahanol bethau!Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth.Mae'r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di!
25. Draw acw mae'r môr mawr sy'n lledu i bob cyfeiriad,a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo –creaduriaid bach a mawr.
26. Mae'r llongau yn teithio arno,a'r morfil a greaist i chwarae ynddo.
27. Maen nhw i gyd yn dibynnu arnat tii roi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
28. Ti sy'n ei roi a nhw sy'n ei fwyta.Ti'n agor dy law ac maen nhw'n cael eu digoni.