Salm 103:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,nac yn dal dig am byth.

10. Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu,na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant.

11. Fel mae'r nefoedd yn uchel uwch y ddaear,mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu.

12. Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin,mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.

13. Fel mae tad yn caru ei blant,mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n ei barchu.

14. Ydy, mae e'n gwybod am ein defnydd ni;mae'n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.

15. Mae bywyd dynol fel glaswellt –mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro;

16. pan mae'r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd;ble roedd does dim sôn amdano.

17. Ond mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy'n ei barchuyn para am byth bythoedd!Mae e'n cadw ei air i genedlaethau o blant –

18. sef y rhai sy'n ffyddlon i'w ymrwymiad,ac sy'n gofalu gwneud beth mae e'n ddweud.

19. Mae'r ARGLWYDD wedi sefydlu ei orsedd yn y nefoedd,ac mae'n teyrnasu yn frenin dros bopeth!

Salm 103