Salm 102:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae fy ngelynion yn fy enllibio drwy'r dydd;maen nhw'n fy rhegi ac yn gwneud sbort ar fy mhen.

9. Lludw ydy'r unig fwyd sydd gen i,ac mae fy niod wedi ei gymysgu รข dagrau,

10. am dy fod ti'n ddig ac wedi gwylltio hefo fi.Rwyt ti wedi gafael yno i, a'm taflu i ffwrdd fel baw!

11. Mae fy mywyd fel cysgod ar ddiwedd y dydd;dw i'n gwywo fel glaswellt.

12. Ond byddi di, ARGLWYDD, ar dy orsedd am byth!Mae pobl yn galw ar dy enw ar hyd y cenedlaethau!

13. Byddi di yn codi ac yn dangos trugaredd at Seion eto.Mae'n bryd i ti fod yn garedig ati!Mae'r amser i wneud hynny wedi dod.

Salm 102