Rhufeiniaid 8:13-23 beibl.net 2015 (BNET)

13. Mae gwneud hynny yn siŵr o arwain i farwolaeth. Ond, gyda nerth yr Ysbryd Glân, os gwnawn ni wrthod gwneud beth mae'r hunan eisiau, byddwn yn cael bywyd.

14. Mae pawb sydd a'u bywydau'n cael eu rheoli gan Ysbryd Duw yn cael bod yn blant i Dduw.

15. Dydy'r Ysbryd Glân dŷn ni wedi ei dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae'n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno'n llawen, “Abba! Dad!”

16. Ydy, mae'r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni'n blant i Dduw.

17. Ac os ydyn ni'n blant iddo, byddwn ninnau hefyd yn derbyn yr holl bethau da mae'n ei roi i'w fab y Meseia. Ond cofiwch wedyn, os ydyn ni'n cael rhannu yn ei ysblander mae'n rhaid i ni fod yn barod i ddioddef gydag e hefyd.

18. Dw i'n reit siŵr bod beth dŷn ni'n ei ddioddef ar hyn o bryd yn ddim o'i gymharu â'r ysblander gwych fyddwn ni'n ei brofi maes o law.

19. Ydy, mae'r greadigaeth i gyd yn edrych ymlaen yn frwd at y dydd pan fydd Duw yn dangos pwy sy'n blant iddo go iawn.

20. Roedd y greadigaeth wedi cael ei chondemnio i wagedd (Dim ei dewis hi oedd hynny – cafodd ei orfodi arni).

21. Ond mae gobaith i edrych ymlaen ato: mae'r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu'r rhyddid bendigedig fydd Duw'n ei roi i'w blant.

22. Dŷn ni'n gwybod fod y greadigaeth gyfan yn griddfan fel gwraig sydd mewn poen wrth eni plentyn.

23. Ac nid dim ond y greadigaeth sy'n griddfan, ond ni hefyd sy'n Gristnogion, ac wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel rhagflas o beth sydd i ddod. Dŷn ni hefyd yn griddfan o'n mewn wrth ddisgwyl i'r diwrnod ddod pan fydd Duw yn ein mabwysiadu ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd!

Rhufeiniaid 8