Rhufeiniaid 8:12-14 beibl.net 2015 (BNET)

12. Felly, frodyr a chwiorydd, does dim rhaid i ni bellach fyw fel mae'r natur bechadurus eisiau.

13. Mae gwneud hynny yn siŵr o arwain i farwolaeth. Ond, gyda nerth yr Ysbryd Glân, os gwnawn ni wrthod gwneud beth mae'r hunan eisiau, byddwn yn cael bywyd.

14. Mae pawb sydd a'u bywydau'n cael eu rheoli gan Ysbryd Duw yn cael bod yn blant i Dduw.

Rhufeiniaid 8