Rhufeiniaid 6:7-18 beibl.net 2015 (BNET)

7. Os ydy rhywun wedi marw, mae'n rhydd o afael pechod.

8. Ond os ydyn ni wedi marw gyda'r Meseia dŷn ni'n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd!

9. Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi ei godi yn ôl yn fyw – does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach.

10. Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e'n byw i glodfori Duw!

11. Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â'r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.

12. Peidiwch gadael i bechod reoli'ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i'w chwantau.

13. Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o'ch corff i'w ddefnyddio i wneud beth sy'n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a'ch defnyddio chi i wneud beth sy'n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd.

14. Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy'n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi'ch gollwng chi'n rhydd!

15. Felly, ydyn ni'n mynd i ddal i bechu am mai dim y Gyfraith sy'n ein rheoli ni bellach, a'n bod wedi profi haelioni Duw? Na! Wrth gwrs ddim!

16. Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae'n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw.

17. Diolch i Dduw, dych chi wedi troi o fod yn gaeth i bechod i fod yn ufudd i beth mae Duw wedi ei ddysgu i chi.

18. Dych chi wedi'ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy'n iawn.

Rhufeiniaid 6