1. Felly, gan ein bod ni wedi'n derbyn i berthynas iawn gyda Duw, drwy gredu, mae gynnon ni heddwch gyda Duw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
2. Wrth gredu dŷn ni eisoes wedi dod i brofi haelioni Duw, a gallwn edrych ymlaen yn llawen i gael rhannu yn ei ysblander.
3. A dŷn ni'n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni'n dioddef, am ein bod ni'n gwybod fod dioddefaint yn rhoi'r nerth i ni ddal ati.
4. Mae'r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy'n rhoi i ni'r gobaith hyderus sydd gynnon ni.
5. Dŷn ni'n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau trwy roi'r Ysbryd Glân i ni!
6. Pan oedd pethau'n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma'r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg!
7. Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da.
8. Ond dangosodd Duw i ni gymaint maen ein caru ni trwy i'r Meseia farw droson ni pan roedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!