Rhufeiniaid 4:1-3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ond beth am Abraham felly – tad y genedl Iddewig? Oes ganddo fe rywbeth i'w ddysgu i ni am hyn i gyd?

2. Os cafodd Abraham ei dderbyn gan Dduw am beth wnaeth e, roedd ganddo le i frolio. Ond dim felly oedd hi o safbwynt Duw.

3. Dyma mae'r ysgrifau'n ei ddweud amdano: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.”

Rhufeiniaid 4