Rhufeiniaid 11:31-36 beibl.net 2015 (BNET)

31. Nhw ydy'r rhai sy'n anufudd bellach. Ond os ydy Duw wedi dangos trugaredd atoch chi, pam allan nhw hefyd ddim derbyn trugaredd?

32. Y gwir ydy, mae Duw wedi dal pawb yn garcharorion anufudd-dod, er mwyn iddo allu dangos trugaredd atyn nhw i gyd.

33. Mae Duw mor ffantastig!Mae e mor aruthrol ddoeth!Mae'n deall popeth!Mae beth mae e'n ei benderfynu y tu hwnt i'n hamgyffred ni,a beth mae'n ei wneud y tu hwnt i'n deall ni!

34. Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sydd wedi dod i wybod digon i roi cyngor iddo?

35. Pwy sydd wedi rhoi cymaint i Dduw nes bod Duw รข dyled i'w thalu iddo?

36. Na, Duw sydd wedi rhoi popeth i ni!Fe sy'n cynnal y cwbl,ac mae'r cwbl yn bodoli er ei fwyn e!Fe ydy'r unig un sy'n haeddu ei foli am byth!Amen!

Rhufeiniaid 11