Numeri 5:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. Os ydy'r gŵr yn amau fod rhywbeth wedi digwydd, ac yn dechrau teimlo'n genfigennus (hyd yn oed os ydy'r wraig yn ddieuog),

15. rhaid i'r gŵr fynd â hi at yr offeiriad. Mae i gyflwyno cilogram o flawd haidd yn offrwm trosti. Ond rhaid iddo beidio tywallt olew olewydd ar y blawd, na rhoi thus arno am mai offrwm amheuaeth ydy e, er mwyn dod â'r drwg i'r amlwg.

16. “‘Bydd yr offeiriad yn gwneud i'r wraig sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

17. Wedyn bydd yr offeiriad yn rhoi dŵr cysegredig mewn cwpan bridd, a rhoi llwch oddi ar lawr y Tabernacl yn y dŵr.

18. Yna tra mae'r wraig yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD, mae'r offeiriad i ddatod ei gwallt hi a rhoi'r offrwm o rawn yn ei dwylo, sef yr offrwm amheuaeth. Wedyn mae'r offeiriad i sefyll o'i blaen hi, gyda'r gwpan o ddŵr chwerw sy'n dod â melltith yn ei law.

19. Wedyn rhaid i'r offeiriad wneud i'r wraig fynd ar ei llw, a dweud wrthi, “Os wyt ti ddim wedi cysgu gyda dyn arall, a gwneud dy hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i dy ŵr, boed i'r dŵr chwerw yma sy'n dod â melltith wneud dim drwg i ti.

20-21. Ond os wyt ti wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud dy hun yn aflan drwy gael rhyw gyda dyn arall, yna boed i bawb weld fod yr ARGLWYDD wedi dy felltithio di, am dy fod ti'n methu cael plant byth eto!” (Bydd yr offeiriad wedi rhoi'r wraig dan lw i gael ei melltithio os ydy hi'n euog.)

22. “Bydd y dŵr yma sy'n achosi melltith yn gwneud niwed i dy gorff, fel dy fod yn methu cael plant byth eto!” A dylai'r wraig ateb, “Amen, amen.”

23. Wedyn mae'r offeiriad i ysgrifennu'r melltithion yma ar sgrôl, cyn eu crafu i ffwrdd eto i'r dŵr.

24. Yna rhaid iddo wneud i'r wraig yfed y dŵr chwerw sy'n dod â melltith, fel ei bod yn diodde'n chwerw os ydy hi'n euog.

25. Bydd yr offeiriad yn cymryd grawn yr offrwm amheuaeth o ddwylo'r wraig, ei chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a mynd ag e at yr allor.

26. Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r offrwm i'w losgi yn ernes ar yr allor. Yna bydd yn gwneud i'r wraig yfed y dŵr.

Numeri 5