Numeri 36:8-11 beibl.net 2015 (BNET)

8. Rhaid i bob merch sydd wedi etifeddu tir gan ei hynafiaid, pa lwyth bynnag mae'n perthyn iddo, briodi rhywun o fewn ei llwyth ei hun. Wedyn bydd pawb yn Israel yn cadw'r tir maen nhw wedi ei etifeddu gan eu hynafiaid.

9. Dydy'r tir gafodd ei etifeddu ddim i basio o un llwyth i'r llall. Mae pob llwyth yn Israel i gadw'r tir gafodd ei roi iddo.”

10. A dyma ferched Seloffchad yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

11. Dyma nhw i gyd – Machla, Tirtsa, Hogla, Milca a Noa – yn priodi cefndryd ar ochr eu tad o'r teulu.

Numeri 36