10. A dyma ferched Seloffchad yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
11. Dyma nhw i gyd – Machla, Tirtsa, Hogla, Milca a Noa – yn priodi cefndryd ar ochr eu tad o'r teulu.
12. Dyma nhw'n priodi dynion oedd yn perthyn i lwyth Manasse fab Joseff, ac felly arhosodd y tir roedden nhw wedi ei etifeddu o fewn llwyth eu hynafiaid.