Numeri 35:12-18 beibl.net 2015 (BNET)

12. Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc rhag perthynas yr un gafodd ei ladd sydd am ddial. Ddylai'r lladdwr ddim cael ei ladd cyn sefyll ei brawf o flaen y bobl.

13. Rhaid darparu chwech tref loches –

14. tair yr ochr yma i'r Afon Iorddonen, a tair yn Canaan.

15. Bydd y chwe tref yma yn drefi lloches i bobl Israel, i bobl o'r tu allan ac i fewnfudwyr. Gall unrhyw un sy'n lladd person arall trwy ddamwain ddianc iddyn nhw.

16. β€œβ€˜Ond mae rhywun sy'n taro person arall yn farw gyda bar haearn yn llofrudd. Rhaid gweinyddu'r gosb eithaf – mae'n llofrudd.

17. Neu os ydy e'n taflu carreg ddigon mawr i ladd rhywun at berson arall, a'r person hwnnw'n marw, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw.

18. Neu os ydy e'n taro rhywun yn farw gyda darn o bren, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw.

Numeri 35