10. Roedd y brenin Balac yn wyllt gynddeiriog gyda Balaam. Curodd ei ddwylo'n wawdlyd, a dweud wrtho, “Gwnes i dy alw di yma i felltithio fy ngelynion i! A dyma ti'n gwneud dim byd ond bendithio! Ti wedi eu bendithio nhw dair gwaith!
11. Well i ti ddianc am adre! Dos! Ro'n i wedi dweud y byddwn i'n dy dalu di'n hael, ond gei di ddim byd! Ar yr ARGLWYDD mae'r bai am hynny!”
12. A dyma Balaam yn ateb, “Ro'n i wedi dweud wrth dy swyddogion di,
13. ‘Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei balas i mi, ac yn ei lenwi gydag arian ac aur, allwn i ddim mynd yn groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho i. Alla i ddim gwneud da na drwg ohono i fy hun, dim ond dweud beth mae'r ARGLWYDD yn ei roi i mi.’