1. Dyma bobl Israel yn teithio yn eu blaenau, ac yn gwersylla ar wastatir Moab yr ochr draw i'r Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.
2. Roedd Balac fab Sippor, brenin Moab, wedi clywed beth oedd pobl Israel wedi ei wneud i'r Amoriaid.
3. Pan welodd pobl Moab gymaint o Israeliaid oedd yna, aethon nhw i banig llwyr. Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau.
4. A dyma frenin Moab yn dweud wrth arweinwyr Midian, “Bydd y dyrfa enfawr yma yn llyncu popeth o'u cwmpas nhw, fel tarw yn pori cae yn lân.” A dyma Balac, oedd yn frenin Moab ar y pryd,
5. yn anfon neges at Balaam fab Beor oedd yn dod o Pethor wrth yr Afon Ewffrates. “Mae yna dyrfa enfawr o bobl wedi dod allan o'r Aifft. Maen nhw ym mhobman, ac maen nhw wedi setlo gyferbyn â ni.
6. Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Maen nhw'n rhy gryf i mi ddelio gyda nhw. Ond falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad. Achos mae pwy bynnag wyt ti'n ei fendithio yn llwyddo, a pwy bynnag wyt ti'n ei felltithio yn syrthio.”