Numeri 20:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma bobl Israel i gyd yn cyrraedd anialwch Sin. Roedd hyn yn y mis cyntaf, a dyma nhw'n aros yn Cadesh. Dyna lle buodd Miriam farw, a lle cafodd ei chladdu.

2. Doedd dim dŵr i'r bobl yno, a dyma nhw'n casglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron.

3. A dyma nhw'n dechrau ffraeo gyda Moses: “Byddai lot gwell petaen ni wedi marw o flaen yr ARGLWYDD gyda'n brodyr!

4. Pam wyt ti wedi dod â phobl yr ARGLWYDD i'r anialwch yma? Er mwyn i ni a'n hanifeiliaid farw yma?

5. Pam wnest ti ddod â ni allan o'r Aifft i'r lle ofnadwy yma? Does dim cnydau'n tyfu yma, dim ffigys, gwinwydd na phomgranadau. Does dim hyd yn oed ddŵr i'w yfed!”

Numeri 20