11. Ar ddechrau'r ail flwyddyn wedi i bobl Israel ddod allan o'r Aifft (ar yr ugeinfed diwrnod o'r ail fis) dyma'r cwmwl yn codi oddi ar dabernacl y dystiolaeth.
12. Felly dyma bobl Israel yn cychwyn ar eu taith o anialwch Sinai. Ac yn y diwedd dyma'r cwmwl yn aros yn anialwch Paran.
13. Hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw symud, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
14. Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Jwda aeth gyntaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Jwda dan arweiniad Nachshon fab Aminadab.
15. Wedyn roedd Nethanel fab Tswár yn arwain llwyth Issachar,
16. ac Eliab fab Chelon yn arwain llwyth Sabulon.
17. Nesaf, dyma'r Tabernacl yn cael ei dynnu i lawr. A dyma'r Gershoniaid a'r Merariaid, oedd yn cario'r Tabernacl, yn mynd allan.
18. Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Reuben aeth nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Reuben dan arweiniad Elisur fab Shedeŵr.
19. Wedyn roedd Shelwmiel fab Swrishadai yn arwain llwyth Simeon,
20. ac Eliasaff fab Dewel yn arwain llwyth Gad.
21. Yna dyma'r Cohathiaid, oedd yn cario offer y cysegr, yn eu dilyn. (Roedd y Tabernacl i fod i gael ei godi eto cyn iddyn nhw gyrraedd.)
22. Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Effraim oedd nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Effraim dan arweiniad Elishama fab Amihwd.
23. Wedyn roedd Gamaliel fab Pedatswr yn arwain llwyth Manasse,
24. ac Abidan fab Gideoni yn arwain llwyth Benjamin.
25. Ac yna'n olaf, y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Dan. Roedd adrannau llwyth Dan dan arweiniad Achieser fab Amishadai.
26. Wedyn roedd Pagiel fab Ochran yn arwain llwyth Asher,
27. ac Achira fab Enan yn arwain llwyth Nafftali.
28. Dyna'r drefn aeth pobl Israel allan, adran wrth adran. A dyma nhw'n teithio yn eu blaenau.
29. Dyma Moses yn dweud wrth Chobab (mab i Reuel o Midian, tad-yng-nghyfraith Moses), “Dŷn ni ar ein ffordd i'r wlad mae'r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i ni. Tyrd gyda ni. Byddwn ni'n dy drin di'n dda. Mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau gwych i bobl Israel.”
30. Ond atebodd Chobab, “Na, dw i ddim am ddod. Dw i am fynd adre i'm gwlad, at fy mhobl fy hun.”
31. “Paid gadael ni,” meddai Moses, “Gelli di ein tywys ni drwy'r anialwch. Ti'n gwybod am y lleoedd gorau i wersylla.