6. Doeddwn i ddim yn byw yn Jerwsalem ar y pryd. Y flwyddyn pan oedd Artaxerxes, brenin Babilon, wedi bod yn teyrnasu ers tri deg dwy o flynyddoedd roeddwn i wedi mynd ato. Ond wedyn, beth amser ar ôl hynny, roeddwn i wedi gofyn am ganiatâd ganddo
7. i ddod yn ôl i Jerwsalem. A dyna pryd wnes i ddarganfod y drwg roedd Eliashif wedi ei wneud yn rhoi ystafell yng nghanol teml Dduw i Tobeia ei defnyddio.
8. Roeddwn i wedi gwylltio'n lân, a dyma fi'n gorchymyn clirio popeth oedd biau Tobeia allan o'r stordy.
9. Yna dyma fi'n dweud fod y stordai i gael eu puro cyn i offer y deml gael ei roi yn ôl ynddyn nhw, gyda'r offrwm o rawn a'r thus.
10. Dyma fi'n darganfod hefyd fod pobl ddim wedi bod yn rhoi eu cyfran o rawn i'r Lefiaid, ac felly roedd y Lefiaid a'r cantorion i gyd wedi gadael i weithio ar y tir.
11. Felly dyma fi'n mynd i gwyno i swyddogion y ddinas, a gofyn “Pam mae teml Dduw yn cael ei hesgeuluso?” Wedyn dyma fi'n galw'r Lefiaid yn ôl at ei gilydd, a rhannu eu cyfrifoldebau iddyn nhw.
12. Ar ôl hyn dechreuodd pobl Jwda i gyd ddod a'r ddegfed ran o'r grawn, sudd grawnwin ac olew olewydd i'r stordai eto.
13. Dyma fi'n gwneud Shelemeia yr offeiriad, Sadoc yr ysgrifennydd, a Lefiad o'r enw Pedaia yn gyfrifol am y stordai, a Chanan (oedd yn fab i Saccwr ac ŵyr i Mataneia) i'w helpu. Roedden nhw'n ddynion y gallwn i eu trystio. Eu cyfrifoldeb nhw fyddai goruchwylio dosbarthu'r cwbl i'w cydweithwyr.