Nehemeia 13:12-18 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ar ôl hyn dechreuodd pobl Jwda i gyd ddod a'r ddegfed ran o'r grawn, sudd grawnwin ac olew olewydd i'r stordai eto.

13. Dyma fi'n gwneud Shelemeia yr offeiriad, Sadoc yr ysgrifennydd, a Lefiad o'r enw Pedaia yn gyfrifol am y stordai, a Chanan (oedd yn fab i Saccwr ac ŵyr i Mataneia) i'w helpu. Roedden nhw'n ddynion y gallwn i eu trystio. Eu cyfrifoldeb nhw fyddai goruchwylio dosbarthu'r cwbl i'w cydweithwyr.

14. O Dduw, plîs cofia beth dw i wedi ei wneud. Paid anghofio'r cwbl dw i wedi ei wneud ar ran teml fy Nuw a'r gwasanaethau ynddi.

15. Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod pobl yn Jwda oedd yn sathru grawnwin ar y Saboth. Roedden nhw'n llwytho asynnod a dod â'u cnydau i'w gwerthu yn Jerwsalem ar y Saboth – grawn, gwin, grawnwin, ffigys, a pob math o bethau eraill. Dyma fi'n eu ceryddu nhw y diwrnod roedden nhw'n gwerthu'r cynnyrch yma i gyd.

16. Roedd pobl Tyrus oedd yn byw yno yn dod â physgod a pob math o gynnyrch arall i'w werthu i bobl Jwda ar y Saboth. Roedd hyn i gyd yn digwydd yn Jerwsalem o bobman!

17. Felly dyma fi'n mynd at bobl bwysig Jwda i wneud cwyn swyddogol. “Sut allwch chi wneud y fath ddrwg? Dych chi'n halogi'r dydd Saboth!

18. Onid dyma sut roedd eich hynafiaid yn ymddwyn, a gwneud i Dduw ddod â'r holl helynt arnon ni a'r ddinas yma? A dyma chi nawr yn gwneud pethau'n waeth, a gwneud Duw'n fwy dig eto gydag Israel drwy halogi'r Saboth fel yma!”

Nehemeia 13