Nahum 2:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ninefe, mae'r ‛chwalwr‛ yn dod i ymosod!“Gosod filwyr i amddiffyn dy waliau!”“Gwylia'r ffordd! Gwna dy hun yn barod!Casgla dy rym milwrol!”

2. (Mae'r ARGLWYDD yn adfer anrhydedd ei bobl –gwinwydden Jacob, ac Israel hefyd.Roedd fandaliaid wedi dod a'i dinistrio,a difetha ei changhennau.)

3. Mae tarianau ei filwyr yn goch,arwyr sy'n gwisgo ysgarlad;Mae'r cerbydau dur fel fflamau o dânyn barod i ymosod,a'r gwaywffyn yn cael eu chwifio.

4. Mae'r cerbydau'n rhuthro'n wyllt drwy'r strydoedd,ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy'r sgwâr.Maen nhw'n fflachio fel ffaglau tân,ac yn gwibio fel mellt.

Nahum 2