Micha 2:11-13 beibl.net 2015 (BNET)

11. Petai rhywun yn dod heibioyn malu awyr a thwyllo,‘Dw i'n addo y cewch chi joiodigonedd o win a chwrw!’ –byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!

12. Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob.Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israelat ei gilydd fel defaid mewn corlan.Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfayn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl.

13. Bydd yr un sy'n torri trwoddyn eu harwain nhw allan i ryddid.Byddan nhw'n mynd allan drwy'r giatiaua gadael gyda'u brenin ar y blaen.Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn eu harwain!”

Micha 2