Micha 2:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwae nhw, y rhai sy'n dyfeisio drygionia gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio.Wedyn codi gyda'r wawr i wneud y drwg –maen nhw'n gwneud beth maen nhw eisiau.

2. Maen nhw'n cymryd y tir maen nhw'i eisiau,ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl.Maen nhw'n cipio cartrefi trwy dwyll a thraisac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill.

3. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma.Fydd dim modd i chi ddianc!Dim mwy o swancio i chi! –mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg!

4. Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chidrwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd –‘Mae ar ben arnon ni!Mae ein tir yn cael ei werthu!Mae Duw wedi cymryd y cwbl,a rhoi ein tir i fradwyr anffyddlon!’”

Micha 2