12. Clywodd Iesu nhw, ac meddai, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl.
13. Mae'n bryd i chi ddysgu beth ydy ystyr y dywediad: ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau.’ Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”
14. Dyma ddisgyblion Ioan yn dod ato a gofyn iddo, “Dŷn ni a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”
15. Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i fod yn drist ac i alaru! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.
16. “Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r clwt o frethyn yn tynnu ar y dilledyn ac yn achosi rhwyg gwaeth.
17. A dydy gwin sydd heb aeddfedu ddim yn cael ei dywallt i hen boteli crwyn. Wrth i'r gwin aeddfedu byddai'r crwyn yn byrstio ac yn difetha, a'r gwin yn cael ei golli. Na, rhaid tywallt y gwin i boteli crwyn newydd, a bydd y poteli a'r gwin yn cael ei gadw.”
18. Tra oedd yn dweud hyn, dyma un o'r arweinwyr Iddewig yn dod ato ac yn plygu ar ei liniau o'i flaen. “Mae fy merch fach newydd farw,” meddai, “ond tyrd i roi dy law arni, a daw yn ôl yn fyw.”
19. Cododd Iesu a mynd gyda'r dyn, ac aeth y disgyblion hefyd.