Mathew 5:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato,

2. a dechreuodd eu dysgu, a dweud:

3. “Mae'r rhai sy'n teimlo'n dlawd ac annigonol wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.

4. Mae'r rhai sy'n galaru wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael eu cysuro.

5. Mae'r rhai addfwyn sy'n cael eu gorthrymu wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n etifeddu'r ddaear.

6. Mae'r rhai sy'n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael eu bodloni'n llwyr.

7. Mae'r rhai sy'n dangos trugaredd wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael profi trugaredd eu hunain.

Mathew 5