35. Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth.
36. “Does neb ond y Tad yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun!
37. Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
38. Yn y dyddiau yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch.
39. Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i'r llifogydd ddod a'u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna'n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
40. Bydd dau allan yn y maes; bydd un yn cael ei gymryd i fwrdd ac un yn cael ei adael.
41. Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda melin law; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd ac un yn cael ei gadael.
42. “Gwyliwch felly, achos dych chi ddim yn gwybod y dyddiad pan bydd eich Arglwydd yn dod yn ôl.
43. Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a'i rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ.
44. Felly rhaid i chi fod yn barod drwy'r adeg. Bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!
45. “Felly pwy ydy'r swyddog doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y gweision i gyd, ac i'w bwydo'n rheolaidd.
46. Ac os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo.
47. Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd!