14. “Mae llawer wedi cael gwahoddiad, ond ychydig sy'n cael eu dewis.”
15. Dyma'r Phariseaid yn mynd allan wedyn a chynllwynio sut i'w gornelu a'i gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl.
16. Dyma nhw'n anfon rhai o'u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod. “Athro,” medden nhw, “dŷn ni'n gwybod dy fod ti'n onest ac yn dysgu mai ffordd Duw ydy'r gwirionedd. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw.
17. Felly, beth ydy dy farn di? Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”
18. Ond roedd Iesu'n gwybod mai drwg oedden nhw'n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi'n ceisio nal i?
19. Dangoswch i mi ddarn arian sy'n cael ei ddefnyddio i dalu'r dreth.” Dyma nhw'n dod â darn arian iddo,
20. a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”