Mathew 13:24-43 beibl.net 2015 (BNET)

24. Dwedodd Iesu stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae.

25. Tra oedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith.

26. Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn i'r golwg hefyd.

27. “Daeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble mae'r holl chwyn yma wedi dod?’

28. “‘Rhywun sy'n fy nghasáu i sy'n gyfrifol am hyn’ meddai.“‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godi'r chwyn?’ meddai ei weision.

29. “‘Na,’ meddai'r dyn, ‘Rhag ofn i chi godi peth o'r gwenith wrth dynnu'r chwyn.

30. Gadewch i'r gwenith a'r chwyn dyfu gyda'i gilydd. Wedyn pan ddaw'r cynhaeaf bydda i'n dweud wrth y rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf: Casglwch y chwyn gyntaf, a'u rhwymo'n fwndeli i'w llosgi; wedyn cewch gasglu'r gwenith a'i roi yn fy ysgubor.’”

31. Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae.

32. Er mai dyma'r hedyn lleia un, mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae'n tyfu'n goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!”

33. Dwedodd stori arall eto: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd a'i gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”

34. Roedd Iesu'n dweud popeth wrth y dyrfa drwy adrodd straeon; doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun.

35. Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd yn dod yn wir: “Siaradaf drwy adrodd straeon, Dwedaf bethau sy'n ddirgelwch ers i'r byd gael ei greu.”

36. Gadawodd Iesu y dyrfa a mynd i mewn i'r tŷ. Aeth ei ddisgyblion i mewn ato a gofyn iddo, “Wnei di esbonio'r stori am y chwyn i ni?”

37. Atebodd Iesu, “Fi, Mab y Dyn, ydy'r un sy'n hau yr had da.

38. Y byd ydy'r cae, ac mae'r hadau da yn cynrychioli'r bobl sy'n perthyn i'r deyrnas. Y bobl sy'n perthyn i'r un drwg ydy'r chwyn,

39. a'r gelyn sy'n eu hau nhw ydy'r diafol. Diwedd y byd ydy'r cynhaeaf, a'r angylion ydy'r rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf.

40. “Dyma fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd – fel y chwyn sy'n cael eu casglu i'w llosgi,

41. bydd Mab y Dyn yn anfon yr angylion allan, a byddan nhw'n chwynnu o blith y bobl sy'n perthyn i'w deyrnas bawb sy'n gwneud i bobl bechu, a phawb sy'n gwneud drwg.

42. Bydd yr angylion yn eu taflu nhw i'r ffwrnais, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.

43. Wedyn bydd y bobl wnaeth beth sy'n iawn yn disgleirio fel yr haul pan ddaw eu Tad nefol i deyrnasu. Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu.

Mathew 13