14. Ynddyn nhw mae'r hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir: ‘Byddwch chi'n gwrando'n astud, ond byth yn deall; Byddwch chi'n edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad.
15. Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw'n fyddar, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid, yn clywed â'u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw’.
16. Ond dych chi'n cael y fath fraint o weld a chlywed y cwbl!
17. Wir i chi, mae llawer o broffwydi a phobl dduwiol wedi hiraethu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.
18. “Felly dyma beth ydy ystyr stori'r ffermwr yn hau:
19. Pan mae rhywun yn clywed y neges am y deyrnas a ddim yn deall, mae'r Un drwg yn dod ac yn cipio beth gafodd ei hau yn y galon. Dyna'r had ddisgynnodd ar y llwybr.
20. Yr had sy'n syrthio ar dir creigiog ydy'r sawl sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau.
21. Ond dydy'r neges ddim yn gafael yn y person go iawn, ac felly dydy e ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am ei fod wedi credu, mae'n troi cefn yn ddigon sydyn!
22. Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydy'r sawl sy'n clywed y neges, ond mae'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn ei fywyd.