Marc 7:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r Phariseaid a rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd wedi dod o Jerwsalem yn casglu o gwmpas Iesu.

2. Roedden nhw wedi sylwi fod rhai o ddisgyblion Iesu ddim yn golchi eu dwylo yn y ffordd iawn cyn bwyta.

3. (Dydy'r Phariseaid a phobl Jwda byth yn bwyta heb fynd trwy ddefod golchi dwylo fel mae'r traddodiad crefyddol yn gofyn.

4. Wnân nhw ddim bwyta dim wedi ei brynu yn y farchnad chwaith heb fynd trwy ddefod golchi. Ac mae ganddyn nhw lawer o reolau eraill tebyg, fel defod golchi cwpanau, jygiau a llestri copr o bob math.)

Marc 7