Marc 2:5-12 beibl.net 2015 (BNET)

5. Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi ei barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi eu maddau.”

6. Roedd rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno. Yr hyn oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw oedd,

7. “Sut mae'n gallu dweud y fath beth? Cabledd ydy dweud peth felly! Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!”

8. Roedd Iesu'n gwybod yn iawn mai dyna oedden nhw'n ei feddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam dych chi'n meddwl mod i'n cablu?

9. Beth ydy'r peth hawsaf i'w ddweud wrth y dyn – ‘Mae dy bechodau wedi eu maddau,’ neu, ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’?

10. Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear!” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu, a dweud wrtho,

11. “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”

12. A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan a'r lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw.

Marc 2