1. Ychydig dros ddiwrnod oedd cyn y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw. Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am esgus i arestio Iesu a'i ladd.
2. Ond medden nhw, “Dim yn ystod yr Ŵyl, neu bydd reiat.”
3. Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛. Tra roedd Iesu'n bwyta daeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr costus, olew nard pur. Torrodd y sêl ar y jar a thywallt y persawr ar ei ben.